1 Kings 11

Solomon yn anufudd i'r Arglwydd

1Cafodd y Brenin Solomon berthynas gyda lot fawr o ferched o wledydd eraill. Yn ogystal â merch y Pharo, roedd ganddo gariadon o Moab, Ammon, Edom, Sidon ac o blith yr Hethiaid. 2Dyma'r gwledydd roedd yr Arglwydd wedi rhybuddio pobl Israel amdanyn nhw: “Peidiwch cael perthynas gyda nhw. Maen nhw'n siŵr o'ch denu chi ar ôl eu duwiau.” Ond roedd Solomon yn dal i gael perthynas rywiol gyda nhw i gyd. 3Roedd ganddo saith gant o wragedd a thri chant o gariadon.
11:3 cariadon Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
Ac roedden nhw'n ei arwain ar gyfeiliorn.
4Wrth iddo fynd yn hŷn dyma ei wragedd yn ei ddenu ar ôl duwiau dieithr. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i'r Arglwydd fel roedd Dafydd ei dad. 5Aeth Solomon i addoli Ashtart, duwies y Sidoniaid, a Milcom, eilun ffiaidd pobl Ammon.
11:5 Milcom Un o dduwiau Ammon. Enw arall arno oedd Molech – 2 Brenhinoedd 23:10; Jeremeia 32:35
6Roedd yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr Arglwydd. Doedd e ddim yn ei ddilyn yn ffyddlon fel gwnaeth ei dad Dafydd. 7Aeth Solomon mor bell â chodi allor baganaidd i addoli Chemosh (eilun ffiaidd Moab) a Molech (eilun ffiaidd yr Ammoniaid) ar ben y bryn sydd i'r dwyrain o Jerwsalem. 8Roedd yn gwneud yr un peth i bob un o'i wragedd, iddyn nhw allu llosgi arogldarth ac aberthu anifeiliaid i'w duwiau.

9Roedd yr Arglwydd yn wirioneddol flin gyda Solomon am ei fod wedi troi i fwrdd oddi wrtho. Yr Arglwydd oedd e, Duw Israel oedd wedi dod at Solomon ddwywaith, 10a'i siarsio i beidio gwneud hyn a mynd ar ôl duwiau eraill. Ond doedd Solomon ddim wedi gwrando. 11Felly dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Solomon, “Am dy fod ti'n ymddwyn fel yma, ac yn cymryd dim sylw o'r ymrwymiad wnes i a'r rheolau rois i i ti, dw i'n mynd i gymryd y deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i dy was. 12Ond o barch at Dafydd dy dad, wna i ddim gwneud hyn yn ystod dy oes di. Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar dy fab di. 13Ond wna i ddim ei chymryd hi i gyd. Dw i am adael un llwyth i dy fab o barch at fy ngwas Dafydd, a Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis.”

Gelynion Solomon

14Yna dyma'r Arglwydd yn gwneud i Hadad, o deulu brenhinol Edom, godi yn erbyn Solomon. 15Yn ôl yn y cyfnod pan oedd Dafydd yn ymladd Edom roedd Joab, pennaeth ei fyddin, wedi lladd dynion Edom i gyd. Roedd wedi mynd yno i gladdu milwyr Israel oedd wedi syrthio yn y frwydr. 16Arhosodd Joab a byddin Israel yno am chwe mis, nes bod dynion Edom i gyd wedi eu lladd. 17Ond roedd Hadad wedi dianc, ac aeth i'r Aifft gyda rhai o swyddogion ei dad (Dim ond bachgen ifanc oedd e ar y pryd). 18Aethon nhw o Midian i Paran, lle'r ymunodd dynion eraill gyda nhw, cyn mynd ymlaen i'r Aifft. Dyma nhw'n mynd at y Pharo, brenin yr Aifft, a chael lle i fyw, bwyd, a hyd yn oed peth tir ganddo. 19Roedd y Pharo'n hoff iawn o Hadad, a dyma fe'n rhoi ei chwaer-yng-nghyfraith (sef chwaer y Frenhines Tachpenes) yn wraig iddo. 20Cafodd chwaer Tachpenes fab i Hadad, a'i alw yn Genwbath. Ond trefnodd Tachpenes i Genwbath gael ei fagu yn y palas brenhinol gyda plant y Pharo ei hun.

21Pan glywodd Hadad fod Dafydd wedi marw, a Joab capten byddin Israel hefyd, dyma fe'n gofyn i'r Pharo, “Wnei di adael i mi fynd adre i'm gwlad fy hun?” 22A dyma'r Pharo'n gofyn, “Pam? Beth wyt ti'n brin ohono dy fod eisiau mynd i dy wlad dy hun?”

“Dim o gwbl,” atebodd Hadad, “ond plîs gad i mi fynd.”

Addewid Duw i Jeroboam

23Gelyn arall wnaeth Duw ei godi yn erbyn Solomon oedd Reson, mab Eliada. Roedd Reson wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei feistr, y Brenin Hadadeser o Soba. 24Roedd wedi casglu criw o ddynion o'i gwmpas ac yn arwain gang o wrthryfelwyr. Pan goncrodd Dafydd Soba, roedd Reson a'i wŷr wedi dianc ac yna wedi cipio Damascus, a cafodd ei wneud yn frenin yno. 25Roedd yn elyn i Israel trwy gydol cyfnod Solomon ac yn gwneud gymaint o ddrwg â Hadad. Roedd yn gas ganddo Israel. Fe oedd yn frenin ar Syria.

26Un arall wnaeth droi yn erbyn y brenin Solomon oedd Jeroboam, un o'i swyddogion. Roedd Jeroboam fab Nebat yn dod o Sereda yn Effraim, ac roedd ei fam, Serŵa, yn wraig weddw.

27Dyma'r hanes pam wnaeth e wrthryfela yn erbyn y brenin: Roedd Solomon wedi bod yn adeiladu'r terasau, ac wedi trwsio'r bylchau oedd yn wal dinas ei dad Dafydd. 28Roedd hi'n amlwg fod Jeroboam yn ddyn abl. Pan welodd Solomon fod y dyn ifanc yma yn weithiwr da, dyma fe'n ei wneud yn fforman ar y gweithwyr o lwyth Joseff.

29Un diwrnod roedd Jeroboam wedi mynd allan o Jerwsalem. A dyma'r proffwyd Achïa o Seilo yn ei gyfarfod ar y ffordd, yn gwisgo mantell newydd sbon. Roedd y ddau ar eu pennau hunan yng nghefn gwlad. 30Dyma Achïa yn cymryd y fantell, a'i rhwygo yn un deg dau o ddarnau. 31A dyma fe'n dweud wrth Jeroboam, “Cymer di ddeg darn. Dyma mae'r Arglwydd, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i am gymryd teyrnas Israel oddi ar Solomon, a rhoi deg llwyth i ti. 32Bydd un llwyth yn cael ei gadael iddo fe, o barch at Dafydd fy ngwas, ac at Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis o'r llwythau i gyd i fod yn ddinas i mi. 33Dw i'n gwneud hyn am eu bod nhw wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi addoli Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon). Dŷn nhw ddim wedi byw fel dw i'n dweud, gwneud beth sy'n iawn gen i, a bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau rois i iddyn nhw, fel gwnaeth Dafydd, tad Solomon. 34Ond dw i ddim am gymryd y deyrnas gyfan oddi arno. Dw i am adael iddo fe fod yn frenin tra bydd e byw, o barch at Dafydd, y gwas wnes i ei ddewis a'r un oedd yn cadw fy rheolau a'm deddfau i. 35Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar ei fab, ac yn rhoi deg llwyth i ti. 36Dw i am adael un llwyth i'w fab fel y bydd llinach Dafydd fel lamp yn dal i losgi o'm blaen i yn Jerwsalem, y ddinas dw i wedi dewis byw ynddi. 37Ond dw i'n dy ddewis di i fod yn frenin ar Israel. Byddi'n teyrnasu ar y cyfan rwyt ti'n ddymuno. 38Rhaid i ti fod yn ufudd i mi, byw fel dw i'n dweud, a gwneud beth sy'n iawn gen i – bod yn ufudd i'm rheolau a'm canllawiau fel roedd fy ngwas Dafydd yn gwneud. Os gwnei di hynny, bydda i gyda ti, a bydda i'n rhoi llinach i ti yn union fel gwnes i i Dafydd. Bydda i'n rhoi Israel i ti. 39Dw i'n mynd i gosbi disgynyddion Dafydd o achos beth sydd wedi digwydd; ond ddim am byth.”

40Dyma Solomon yn ceisio lladd Jeroboam. Ond dyma Jeroboam yn dianc i'r Aifft at y brenin Shishac. Arhosodd yno nes i Solomon farw.

Marwolaeth Solomon

(2 Cronicl 9:29-31)

41Mae gweddill hanes Solomon, y cwbl wnaeth e ei gyflawni, a'i ddoethineb, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Solomon.

42Bu Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd.

43Pan fuodd Solomon farw, cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

Copyright information for CYM